Home_employers_1

Felly beth yw'r manteision?

CITB-SgiliauAdeiladu yw'r darparwr gorau yn y Deyrnas Unedig ar gyfer prentisiaethau ac maent yn perfformio'n well na phob coleg a darparwr hyfforddiant arall ar draws yr holl sectorau.

Dyma ambell ffaith:

  • Bydd prentisiaid yn gymwys hyd at o leiaf lefel 2 neu 3 SVQ/NVQ (SCQF lefel 5-6)
  • Mae grantiau o hyd at £9,000 ar gael
  • Byddwn ni'n talu am gostau coleg, corff dyfarnu a ffioedd arholi
  • Mae'n bosibl y gallwn ddarparu costau llety a chostau teithio i brentisiaid
  • Byddwch yn cael eich cefnogi gan swyddog prentisiaeth penodol
  • Mae cyllid y Llywodraeth yn cael ei roi yn y diwydiant er mwyn sicrhau cynaladwyedd tymor hir y sector
  • Gallwn gynorthwyo i helpu'ch gweithlu i dderbyn cardiau cymhwysedd priodol
  • Gallwn helpu recriwtio prentisiaid ac rydym yn darparu ymgeiswyr o ansawdd uchel.

Pan fydd pethau'n anodd, mae cystadlu ar gyfer contractau yn anoddach fyth. Dyna pryd y gall pâr arall o ddwylo sydd wedi'u hyfforddi'n dda wneud y gwahaniaeth. Mae dirwasgiadau blaenorol yn profi bod y rhai sy'n datblygu sgiliau yn ystod y dirywiad yn dod allan ohono mewn sefyllfa llawer cryfach.

Mae yna sawl myth ynglŷn â chymryd prentis ac rydym ni yma i chwalu rhai o'r rhain...