Alistair
Systemau Mewnol
Dewch i ddarllen beth mae prentis go iawn yn ei ddweud am weithio yn y diwydiant adeiladu.
Ar gip
RôlSystemau Mewnol
Oed: 26
Pwnc astudio: Dwi’n astudio ar gyfer prentisiaeth mewn Systemau Mewnol yn y Coleg Adeiladu Cenedlaethol yn yr Alban.
Gwnewch gais yn awr
Yn barodi wneud cais?
Osydych yn barodi wneud cais am Brentisiaeth, mae gennym ffordd
gyflym a hawddi'ch helpu i ddechrau
Gwnewch gais yn awr
I ba gwmni ydych chi'n
gweithio?
Rwy'n gweithio i Pegasus Fire Protection - mae'r cwmni
wedi ei leoli yng Nghaeredin - rydyn ni'n adeiladu parwydydd a
hefyd yn creu nenfydau crog.
Beth yw'r pethau da am eich
swydd?
Un o'r pethau dwi'n ei garu am fy ngwaith yw eich bod yn
gallu bod mewn lleoliadau gwahanol ac rydych yn gwneud llawer o
bethau amrywiol, 'fyddwch chi ddim wedi'ch clymu i swydd ddiflas
9-5 ac mae wastad cyfle i gwrdd â phobl wahanol.
Pam ddewisoch chi'r yrfa hon?
Roeddwn i'n gwneud gwaith mewn rhan arall o adeiladu, yr
ochr drydanol, ac wrth siarad gyda phobl oedd yn gwneud parwydydd a
gwaith mewnol, hoffais e'n syth felly cysylltais â'r cwmni a bues
i'n ffodus i gychwyn yn syth. Roedd hyn dwy flynedd yn ôl erbyn hyn
felly dwi wedi gwneud yn dda.
Beth ydych chi'n wneud o ddydd i
ddydd?
Dwi'n mynd i'r gwaith a dwi'n paratoi'r cyfarpar a'r
teclynnau i gyd, yna rydyn ni'n penderfynu ar dasgau'r dydd ac yn
paratoi ein deunyddiau, yna rydyn ni'n adeiladu beth bynnag sydd
wedi ei osod i ni ar gyfer y diwrnod a chwblhau'r gwaith i safon
neilltuol gobeithio.
Beth yw'r peth mwyaf cŵl i chi ei wneud hyd yn
hyn?
Un o'r pethau dwi'n falch iawn ohono yw prosiect yn
Glasgow, yn ysbyty Stobhill, ac fe dderbyniodd Wobr Cynllunio gan
Scottish Construction felly roedd yn bleser mawr gwybod bod y
gwaith a wnaethom wedi cyfrannu at ennill y wobr gan ei fod ar
gyfer dyluniad a thu fewn yr ysbyty.
Beth fyddech chi'n ddweud wrth rywun hoffai geisio gwneud
hyn?
Byddwn yn annog unrhyw un hoffai weithio mewn swydd debyg
i hon i fynd amdani oherwydd mae modd gwneud bywoliaeth dda a hefyd
mae modd gweld cynnyrch gorffenedig sy'n cael ei greu ar gyfer
dyfodol y wlad.
Ble ydych chi'n gweld eich hun mewn 10
mlynedd?
Hoffwn weld fy hunan yn ennill cyflog da ac yn gwneud yr
un peth. Hoffwn symud i mewn i swydd reolaethol yn y cwmni hwn
gobeithio.