Emily
Briciwr
Dewch i ddarllen beth mae prentis go iawn yn ei ddweud am weithio yn y diwydiant adeiladu.
Ar gip
RôlBriciwr
Oed: 21
Pwnc astudio: Rwy’n astudio ar gyfer Prentisiaeth NVQ Lefel 3 mewn Gosod Brics.
Gwnewch gais yn awr
Yn barodi wneud cais?
Osydych yn barodi wneud cais am Brentisiaeth, mae gennym ffordd
gyflym a hawddi'ch helpu i ddechrau
Gwnewch gais yn awr
Beth ydych chi'n hoffi am eich
prentisiaeth?
Mae wedi rhoi cyfle i mi ddatblygu fy sgiliau ar y safle a
dysgu ar yr un pryd.
Pam ddewisoch chi'r yrfa hon?
Dewisais wneud Gosod Brics gan fy mod wedi dewis yn
wreiddiol i wneud Rheoli Adeiladu yn y brifysgol, ond roeddwn i'n
meddwl bod angen i mi gael crefft y tu ôl i mi. Felly fe
gofrestrais ar gwrs gosod briciau yng Ngholeg Bedford, lle cefais
fy newis ar gyfer prentisiaeth gan gwmni adeiladu cyffredinol,
Relmfield Builders.
Beth ydych chi'n wneud o ddydd i
ddydd?
Gwnaf unrhyw beth sy'n ofynnol ar gyfer briciwr, o
ddraenio, waliau ceudod a waliau solet, lefelu, gosod concrid,
plastro, gwaith cynnal a chadw cyffredinol a gwaith
brics.
Beth yw'r pethau da am eich
swydd?
Rwy'n hoffi popeth, o'r tîm rwy'n gweithio gyda nhw at y
sgiliau ymarferol dwi wedi dysgu. O ganlyniad i ddatblygu sgiliau
newydd yn y sefyllfaoedd gwahanol y wynebwn o ddydd i ddydd a'r
ffaith fy mod i'n dysgu bob dydd, mae fy hyder wedi tyfu. Rwyf
hefyd yn hoffi'r ffaith fod bod yn brentis yn eich galluogi i
ddysgu tra'n ennill cyflog sydd yn wirioneddol dda!
Beth yw'r peth mwyaf cŵl ydych wedi ei wneud hyd
yn hyn?
Un o'r pethau gorau i mi ei wneud oedd adeiladu siambr
archwilio yn Ysgol Ganol Gilbert Inglefield yn Leighton Buzzard,
gan mai hwn oedd un o'r tasgau cyntaf a wnes i ar fy mhen fy hun.
Hoffais hefyd y gwaith o ailadeiladu colofn garreg mewn eglwys leol
ac yn ddiweddar dwi newydd orffen adeiladu estyniad, oedd yn
hwyl.
Beth fyddech chi'n ddweud wrth rywun hoffai geisio gwneud
hyn?
Byddwn yn dweud 'jyst gwna fe'. Dyma'r penderfyniad gorau
i mi wneud erioed gan ei fod yn agor cymaint o ddrysau.
Ble ydych chi'n gweld eich hun mewn 10
mlynedd?
Mewn deng mlynedd hoffwn gael rôl fwy rheolaethol neu rôl
arolygu ond byddwn yn dal i fwynhau pob cyfle i allu mynd allan ar
y safle a defnyddio'r offer a'r sgiliau yr wyf wedi dysgu fel
prentis oherwydd dyma beth rwy'n hoffi ei wneud.