Frazer
Gorchuddiwr a Chladiwr Toeau
Dewch i ddarllen beth mae prentis go iawn yn ei ddweud am weithio yn y diwydiant adeiladu.
Ar gip
RôlGorchuddiwr a Chladiwr Toeau
Oed: 17
Pwnc astudio: Rwy’n astudio ar gyfer prentisiaeth mewn Gorchuddio a Chladio Toeau yn y Coleg Adeiladu Cenedlaethol yn Inchinnan yn yr Alban.
Gwnewch gais yn awr
Yn barodi wneud cais?
Osydych yn barodi wneud cais am Brentisiaeth, mae gennym ffordd
gyflym a hawddi'ch helpu i ddechrau
Gwnewch gais yn awr
I ba gwmni ydych chi'n
gweithio?
Rwy'n gweithio i Granger Building Services ac maent yn
gorchuddio a chladio toeau.
Beth yw'r pethau da am eich
swydd?
Yr hyn dwi'n ei hoffi am fy mhrentisiaeth yw gweithio yn
yr awyr agored. Rwy'n hoffi pan ddaw'r haf a gallwch weithio y tu
allan yn yr haul pan mae'n braf ac yn gynnes. Rwyf hefyd yn hoffi
gallu gwneud gwaith metel y tu allan i'r gwaith. Mae'n sgil dda i'w
chael.
Pam ddewisoch chi'r yrfa hon?
Dewisais fy mhrentisiaeth oherwydd i mi adael yr ysgol yn
15 oed, gorffen fy arholiadau ond ni allwn gael swydd, felly
dechreuais weithio gyda fy ewythr. Ond nid oedd yn llawn amser,
felly roeddwn yn ceisio am swyddi gwahanol, ac yna gwelais
brentisiaeth ar gyfer Menter Prentisiaeth y Gymanwlad. Dwi wir yn
ei fwynhau.
Beth ydych chi'n wneud o ddydd i
ddydd?
Ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar Felodrom Glasgow. Byddaf
yn symud ymlaen at y cladin ar ôl i mi orffen hyn. Dwi yn y coleg
ar hyn o bryd yn amlwg ond yn gorffen yfory, ac yna'n dychwelyd at
y cladin yr wythnos nesaf. Caf dro da arni bryd hynny!
Beth yw'r peth mwyaf cŵl i chi ei wneud hyd yn
hyn?
Rhaid i mi ddweud mod i'n falch iawn o weithio ar Felodrom
Glasgow am ei fod yn dasg bwysig sydd â phroffil uchel ac mae
wastad ar y newyddion. Mae'n dda hefyd gan fy mod yn gweithio wrth
ymyl Celtic Park a dyna fy nhîm!
Ble ydych chi'n gweld eich hun mewn 10
mlynedd?
Mewn deng mlynedd gwelaf fy hun yn dal i weithio yn y maes
toi. Efallai yr af dramor i Awstralia gan fod gwell cyflog yn y
maes dros y môr. Ar ôl fy mhrentisiaeth rwy'n mynd i fod yn gwneud
fy NVQ.