Jack
Fframwaith Dur Ffurf Oer
Dewch i ddarllen beth mae prentis go iawn yn ei ddweud am weithio yn y diwydiant adeiladu.
Ar gip
RôlFframwaith Dur Ffurf Oer
Oed: 17
Pwnc astudio: Rwy’n astudio ar gyfer Prentisiaeth Fframwaith Dur Ffurf Oer yng Ngholeg Acton yn Llundain.
Gwnewch gais yn awr
Yn barodi wneud cais?
Osydych yn barodi wneud cais am Brentisiaeth, mae gennym ffordd
gyflym a hawddi'ch helpu i ddechrau
Gwnewch gais yn awr
Pam ddewisoch chi'r yrfa hon?
Dewisais y brentisiaeth gan ei fod yn gyfle da a'r rheswm
yr wyf yn ei hoffi yw ei fod yn fy helpu gyda'm dysgu - rwyf wedi
bod yn gweithio ar y safle, dysgu am bob agwedd o'r swydd, ac erbyn
hyn rwy'n gweithio yn y swyddfa ac yn dysgu mwy a mwy am y
swydd.
Beth ydych chi'n wneud o ddydd i
ddydd?
Wrth weithio yn y swyddfa, byddaf yn bennaf yn llunio
amcangyfrifon a gallwn fod yn gwneud pethau fel helpu allan yn yr
adran weinyddol neu arolygu neu hyd yn oed ateb y
ffonau.
Beth yw'r peth mwyaf cŵl i chi ei wneud hyd yn
hyn?
Y peth yr wyf mwyaf balch ohono yw tra'n gweithio ar yr
adeilad mwyaf yn Ewrop. Roeddwn i a'm cyd brentis newydd gychwyn
ein prentisiaeth ac wedi adeiladu ein wal ein hunain, oedd yn
eithaf campus.
Beth yw'r pethau da am eich
swydd?
Yr hyn a hoffaf am fy mhrentisiaeth yw ei fod yn gyfle da
i bob person ifanc; oherwydd ei fod yn eich helpu i ddysgu, yn rhoi
arian i chi ac yn eich cadw oddi ar y strydoedd.
Ble ydych chi'n gweld eich hun mewn 10
mlynedd?
Gallaf weld fy hun yn datblygu fy sgiliau ar y safle ac yn y
swyddfa, dysgu mwy am y cwmni a'r system fframwaith dur ffurf oer
ac efallai rhyw ddydd yn rhedeg y cwmni hyd yn oed.