James
Saer Coed
Dewch i ddarllen beth mae prentis go iawn yn ei ddweud am weithio yn y diwydiant adeiladu.
Ar gip
RôlSaer Coed
Oed: 20
Pwnc astudio: Rwy'n astudio ar gyfer Prentisiaeth Uwch Lefel 3 Saer Coed.
Gwnewch gais yn awr
Yn barodi wneud cais?
Osydych yn barodi wneud cais am Brentisiaeth, mae gennym ffordd
gyflym a hawddi'ch helpu i ddechrau
Gwnewch gais yn awr
I ba gwmni ydych chi'n
gweithio?
Rwy'n gweithio i'r busnes teuluol D.W. Begley Carpentry
and Joinery, sy'n cynhyrchu drysau, ffenestri a grisiau a'u gosod
mewn tai ar safle.
Beth yw'r pethau da am eich
swydd?
Rwy'n hoffi fy mhrentisiaeth oherwydd fy mod yn dysgu
sgiliau yn y coleg sy'n gallu cael eu defnyddio yn syth yn y gwaith
sy'n fy helpu i wneud cynnydd yn ystod amser gwaith.
Pam ddewisoch chi'r yrfa hon?
Dewisais Brentisiaeth Gwaith Saer Coed am bod fy nhad wedi
bod yn saer coed dros y 30 mlynedd diwethaf ac roeddwn yn mwynhau
gweithio iddo yn ystod gwyliau ysgol. Felly, dilynais ôl ei droed
ar ôl i mi orffen ysgol.
Beth ydych chi'n wneud o ddydd i
ddydd?
Rydym yn cynhyrchu eitemau gwaith coed unigryw - unrhyw
beth na allwch brynu. Rydym yn cynhyrchu darnau i fesur a'u gosod.
Beth rwy'n ei hoffi am fy ngwaith yw fy mod yn ymarfer crefft
fedrus iawn sydd wedi bod o gwmpas ers canrifoedd a bydd yma ymhell
ar fy ôl.
Beth yw'r peth mwyaf cŵl ydych chi wedi ei wneud
hyd yn?
Y peth mwyaf cŵl i mi ei wneud hyd yma, ac rwy'n falch o
hyn, yw ennill rownd rhanbarthol Adeiladu Sgiliau mewn Gwaith Coed.
Roedd angen i mi gynhyrchu ffrâm goed cymhleth gan ddefnyddio
technegau na fyddwn fel arfer yn eu defnyddio o ddydd i ddydd yn y
gwaith.
Beth fyddech chi'n ddweud wrth rywun hoffai geisio
gwneud hyn?
Mae'n ffordd wych o ennill bywoliaeth ac y mae'n grefft y
gallwch chi bob amser ei defnyddio i ennill arian beth bynnag sy'n
digwydd, gan y bydd yn grefft a fydd yma o hyd, a bydd angen
adeiladu pethau bob amser. Hefyd, rydych yn adeiladu pethau a fydd
yn eich goroesi ac rydych yn gwneud eich marc personol eich hun ar
yr ardal lle rydych yn gweithio.