Jasdeep
Technegydd Peirianneg Sifil
Dewch i ddarllen beth mae prentis go iawn yn ei ddweud am weithio yn y diwydiant adeiladu.
Ar gip
RôlTechnegydd Peirianneg Sifil
Oed: 19
Pwnc astudio: Rwy’n astudio ar gyfer Prentisiaeth Technegydd Peirianneg Sifil yng Ngholeg Cenedlaethol Adeiladu'r Dwyrain yn Bircham Newton.
Gwnewch gais yn awr
Yn barodi wneud cais?
Osydych yn barodi wneud cais am Brentisiaeth, mae gennym ffordd
gyflym a hawddi'ch helpu i ddechrau
Gwnewch gais yn awr
I ba gwmni ydych chi'n
gweithio?
Ar hyn o bryd rwy'n gweithio i Skanska Civil Engineering
UK. Mae Skanska yn gweithio ar brosiectau peirianneg sifil o bwys
sy'n ymwneud â gwaith ffordd a thraffordd, gwaith rheilffyrdd,
twnelu, gwaith morol a phrosiectau chyfathrebu.
Pam ddewisoch chi'r yrfa hon?
Dewisais wneud cwrs Technegydd Peirianneg Sifil er mwyn i
mi gael gwybodaeth gyffredinol am safleoedd adeiladu a sut mae
prosiectau adeiladu yn dod ynghyd. Mae cael sylfaen mewn peirianneg
yn agor nifer o lwybrau gyrfa gwahanol mewn adeiladu oedd yn apelio
i mi gan fy mod am fod yn syrfëwr meintiau rhyw ddydd.
Beth ydych chi'n wneud o ddydd i
ddydd?
Ar ddiwrnod gwaith arferol mae gen i lwyth gwaith mawr i'm
cadw'n brysur; rwy'n nodi lefelau ar gyfer yr isgontractwyr, megis
lefelau uchder ar gyfer dyfnder cloddio, neu nodi safleoedd lle mae
angen lleoli cydrannau. Rwyf hefyd yn dadansoddi darluniau
technegol a chreu darluniau newydd, archwilio gwaith dur ac yn
cyfeirio yn ôl i'r darluniau hynny.
Beth yw'r pethau da am eich
swydd?
Rwy'n hoffi'r ffaith nad ydw i'n gaeth mewn swydd swyddfa
ddiflas o 9-5. Mae bod yn y diwydiant adeiladu yn golygu eich bod
yn gweithio ar wahanol fath o swydd bob amser a'ch bod yn dysgu
pethau newydd yn ddyddiol.
Rwy'n hoffi'r ffaith y gall prosiect gymryd hyd at bedair
blynedd, neu cyn lleied â chwe mis ac mae'r cyfan yn cynnal eich
diddordeb ac yn gyson yn taflu heriau gwahanol i'm
llwybr.
Beth yw'r peth mwyaf cŵl i chi ei wneud hyd yn
hyn?
Hyd yn hyn, yr wyf mwyaf balch o arllwysiad concrid a
lwyddais i'w gwblhau tri mis i mewn i'm gwaith ar leoliad. Hwn oedd
y tro cyntaf i mi reoli arllwysiad heb neb yn fy
ngoruchwylio.
Fy ngwaith i oedd rhannu'r ardal yn giwbiau a chyfrifo
faint o goncrid a faint o lwythi byddai angen. Pan gwblhawyd yr
arllwysiad roedd fy nghyfrifiadau yn gywir ac roeddwn wedi rhannu'r
ardal i'r union swm o giwbiau concrid oedd eu hangen!
Beth fyddech chi'n ddweud wrth rywun hoffai geisio gwneud
hyn?
I rywun sy'n meddwl am wneud yr un peth a fi byddwn yn eu
hannog i fynd amdani. Mae yna gymaint o brentisiaethau allan yno
gyda nifer o gwmnïau mawr a bach ac mae'n gyfle gwych i ennill
arian wrth i chi ddysgu.
Ble ydych chi'n gweld eich hun mewn 10
mlynedd?
Ymhen deng mlynedd hoffwn fod yn syrfëwr meintiau ac yn aelod o
Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig a hefyd yn aelod o
Sefydliad y Peirianwyr Sifil fel technegydd.