Lee
Inswleiddio Waliau Allanol
Dewch i ddarllen beth mae prentis go iawn yn ei ddweud am weithio yn y diwydiant adeiladu.
Ar gip
RôlInswleiddio Waliau Allanol
Oed: 21
Pwnc astudio: Rwy’n astudio ar gyfer NVQ Inswleiddio Waliau Allanol yng Nghanolfan Hyfforddi Renocon Dwyrain Llundain.
Gwnewch gais yn awr
Yn barodi wneud cais?
Osydych yn barodi wneud cais am Brentisiaeth, mae gennym ffordd
gyflym a hawddi'ch helpu i ddechrau
Gwnewch gais yn awr
Pam ddewisoch chi'r yrfa hon?
Dewisais brentisiaeth gan ei fod yn gam nesaf delfrydol
i'm gyrfa. Dim ond yn ddiweddar yr wyf wedi cychwyn. Roeddwn yn
gweithio gyda chwmni adeiladu o'r blaen a chefais y cyfle i symud i
fyny i'r swydd hon, felly cymrais y cyfle.
Beth ydych chi'n wneud o ddydd i
ddydd?
Rydym yn gweithio mewn tîm o bedwar i chwech o weithwyr,
gyda gwahanol bobl yn gweithio ar amrywiaeth o dasgau bob dydd.
Rydych yn dysgu pethau gwahanol gan y bobl fedrus o'ch cwmpas ac yn
adeiladu eich gwybodaeth.
Beth yw'r pethau da am eich
swydd?
Beth dwi wir yn ei hoffi am fy mhrentisiaeth yw holl
agweddau gwahanol y gwaith, yn enwedig y gwaith yn yr awyr agored.
Rwyf hefyd yn hoffi dod i'r gwaith a gwneud ffrindiau newydd bob
dydd.
Beth fyddech chi'n ddweud wrth rywun hoffai geisio gwneud
hyn?
Os bydd unrhyw un yn meddwl am ymuno â'r cynllun
prentisiaeth byddwn yn eu cynghori i wneud hynny. Mae'n ffordd dda
iawn i weithio a dysgu ac mae'n eich symud ymlaen yn eich gyrfa ac
yn llawn cyfleoedd da iawn.
Ble ydych chi'n gweld eich hun mewn 10
mlynedd?
Dydw i ddim yn siŵr lle y byddaf, ond mae'r saith mis
diwethaf wedi gwneud i mi sylweddoli y byddwn yn hoffi gweithio yn
yr awyr agored gyda thîm yn gwneud rhywbeth sy'n ymwneud ag
adeiladu.