I ba gwmni ydych chi'n gweithio?

Rwy'n gweithio i gwmni Peirianneg Sifil Balfour Beatty.

Beth ydych chi'n wneud o ddydd i ddydd?

Rydym yn gweithio ar brosiectau amrywiol fel gorsaf drên Waverley, Caeredin ac ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar Bont Rheilffordd y Forth. Rydym yn gosod y sgaffaldiau er mwyn i'r peintwyr ddod i beintio'r bont. Maen nhw'n rhoi côt o baent newydd i'r bont a fydd yn para pum mlynedd ar hugain.

Ydych chi'n teimlo bod SgiliauAdeiladu wedi dy gefnogi?

Yn y brentisiaeth hon mae'n ei gwneud yn glir pa gyrsiau sydd angen i mi eu gwneud a pha lwybr sydd angen i mi ddilyn. Mae'r hyfforddwyr yn fy helpu o ddydd i ddydd yma ac yn fy helpu i gyflawni fy nod o ddod yn sgaffaldiwr cymwys.

Pam ddewisoch chi'r yrfa hon?

Pan wnes i adael yr ysgol, sgaffaldiwr oedd y swydd gyntaf i mi ymgeisio amdani ac yn ffodus cefais y swydd. Dim ond cyrraedd y proffesiwn oedd hynny a dydw i erioed wedi difaru. Rwy'n mwynhau.

Beth yw'r her fwyaf i chi ei hwynebu?

Yr her fwyaf i mi, mae'n, debyg yw delio â'r uchder, sydd weithiau yn fwy na 75 metr. Mae fy ffrindiau yn gofyn i mi yn aml am sut brofiad yw gweithio ar uchder, yn enwedig lle rwy'n gweithio ar Bont Rheilffordd y Forth! Maent yn gofyn i mi os wyf yn ofnus ac rwy'n dweud wrthyn nhw 'mod i wedi arfer ag e'. Roeddwn ychydig yn ofnus i ddechrau ond rydych yn bwrw ymlaen â'r gwaith.

Beth fyddech chi'n ddweud wrth rywun hoffai geisio gwneud hyn?

Byddwn yn dweud wrth bobl pan ddônt yma eich bod yn siŵr o dderbyn cymorth yn syth ar ôl gofyn amdano, does neb yn eich beirniadu chi. Mae'r gefnogaeth yno i chi os byddwch ei hangen.

Ble ydych chi'n gweld eich hun mewn 10 mlynedd?

Ymhen deng mlynedd rwy'n gweld fy hun yn dal i weithio gyda'r cwmni presennol, gan obeithio y byddaf yn symud ymlaen yn y pen draw i fod yn oruchwyliwr o ryw fath. Dyna fy nyhead beth bynnag.