Hysbysiad preifatrwydd
Mae defnyddio'r wefan hon yn golygu eich bod yn derbyn yr
hysbysiad preifatrwydd hwn. Os nad ydych yn fodlon derbyn y Polisi
Preifatrwydd hwn, gadewch y wefan hon ar unwaith.
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rheoli gwefan http://www.cskills.org ac
unrhyw wefan CITB-SgiliauAdeiladu arall. Nid yw'r hysbysiad hwn yn
rheoli unrhyw gysylltiadau o fewn y wefan hon at wefannau nad ydynt
yn cael eu cynnal gan CITB-SgiliauAdeiladu.
Diogelu Data
Defnyddia CITB-SgiliauAdeiladu Google Analytics i fesur a
dadansoddi gwybodaeth yn ymwneud â defnyddwyr i'n gwefan. At y
diben hwnnw, ar sail eich Cyfeiriad IP, cesglir data traffig y
Rhyngrwyd a data ar eich math o borwr a chyfrifiadur, ymysg pethau
eraill. Ni fyddwn yn defnyddio'r data i'ch adnabod chi'n bersonol.
Pan fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â defnyddwyr
y wefan, - er enghraifft yn ystod cystadlaethau, neu ar gyfer
darparu cylchlythyrau electronig, byddwn yn darparu amodau penodol
ynghylch y defnydd o wybodaeth y byddwn yn ei defnyddio wrth i ni
ei chasglu. Os hoffech gael mwy o wybodaeth ar Google Analytics a'r
math o wybodaeth y mae Google Analytics yn casglu ac yn prosesu,
cyfeiriwch at wefan Google a'i pholisi preifatrwydd ar y
wefan.
Cwcis
Pan fyddwch yn ymweld â'r wefan hon rydym yn cyflwyno 'Cwci' ar
eich cyfrifiadur.
Mae cwcis yn ddarnau bach o wybodaeth sy'n cael eu storio gan
eich porwr ar yriant caled eich cyfrifiadur. Nid yw ein cwcis yn
cynnwys unrhyw ddata personol. Mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe yn
derbyn cwcis yn awtomatig, ond fel arfer, gallwch newid eich porwr
i atal hynny. Hyd yn oed heb gwci gallwch ddefnyddio ein gwefan, yn
amodol ar y sylwadau isod. Pan fydd y wefan CITB-SgiliauAdeiladu yn
ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr fewngofnodi i ardaloedd unigol
o'r safle, bydd cwci'n nodi'r camau hyn ac yn gosod ar eich
peiriant. Cwcis sesiwn yw'r rhain sy'n cael eu tynnu oddi ar eich
cyfrifiadur unwaith y bydd y sesiwn neu gyfnod o fewngofnodi wedi
dod i ben. Os ydych yn analluogi cwcis sesiwn, ni fyddwch yn gallu
mewngofnodi i ardaloedd penodol o'r wefan CITB-SgiliauAdeiladu.
Ewch i Swyddfa
Hysbysebu Rhyngweithiol y Deyrnas Unedig i ddarganfod sut i
analluogi a dileu cwcis.
Trydydd Parti
Bydd CITB-SgiliauAdeiladu (Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu,
rhif elusen gofrestredig 264289) yn defnyddio eich data
personol.
Mae eich data personol yn wybodaeth sydd yn eich dynodi ac yn
berthnasol i chi ac yn cynnwys gwybodaeth rydym yn gael yn
uniongyrchol gennych chi neu gan drydydd parti, neu o ganlyniad i'n
perthynas â chi yn ein swyddogaeth fel Cyngor Sgiliau Sector a'r
Bwrdd Hyfforddiant Diwydiannol ac wrth ddarparu nwyddau a
gwasanaethau i chi.
Mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio eich data personol ar gyfer y
dibenion sy'n gysylltiedig â'n swyddogaeth fel Cyngor Sgiliau
Sector a'r Bwrdd Hyfforddiant Diwydiannol ac wrth ddarparu nwyddau
a gwasanaethau i chi.
Efallai y byddwn yn datgelu eich data personol i drydydd parti,
a sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau i ni, at y dibenion a
amlinellwyd uchod, ond ni fyddwn fel arall yn trosglwyddo eich data
personol i drydydd parti ar gyfer dibenion marchnata.
Os ydych yn fyfyriwr neu'n brentis, efallai y byddwn yn datgelu
eich cyflawniadau arholiad yn y papurau newydd a chyfryngau eraill.
Os nad ydych yn dymuno i ni wneud hyn, cysylltwch â 0344 994 4333
neu unsubscribe@cskills.org.
Os byddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth i drydydd parti mewn
gwlad arall, byddwn yn sicrhau eu bod yn cytuno i sicrhau'r un
lefelau o ddiogelwch ag sy'n ofynnol i ni eu gweithredu yn y
Deyrnas Unedig a'u bod yn defnyddio eich gwybodaeth at y dibenion a
amlinellwyd uchod yn unig.
Mae gennych hawl i ofyn am gopi o unrhyw ddata personol sydd
gennym amdanoch chi (er y gallwn godi tâl bychan) ac i gywiro
unrhyw wallau yn eich data.
Os byddwch yn rhoi unrhyw wybodaeth i ni am rywun arall, rydych
yn cadarnhau drwy hyn bod yr unigolyn hwnnw wedi eich penodi i
weithredu ar ei ran / rhan, ac wedi cytuno y gallwch chi roi
caniatâd ar ei ran / rhan dros brosesu ei dd / data personol.
Drwy ddefnyddio'r wefan hon, neu os byddwch yn cyflwyno ffurflen
gais ar-lein rydych yn rhoi caniatâd i'r telerau hyn a'r gwaith o
brosesu data personol wedi hynny.
Os ydych yn gyflogwr yn y diwydiant adeiladu ac yn dymuno derbyn
gwybodaeth bellach gennym, tanysgrifiwch drwy gwblhau a dychwelyd
yr Hysbysiad Prosesu Teg at:
CITB-SgiliauAdeiladu
Bircham Newton
King's Lynn
Norfolk
PE31 6RH
Newidiadau i'r Polisi Preifatrwydd
Os byddwn yn penderfynu newid ein polisi preifatrwydd, byddwn yn
gosod y newidiadau ar y dudalen hon fel eich bod bob amser yn
ymwybodol o'r wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn ei
defnyddio ac o dan ba amgylchiadau yr ydym yn ei datgelu.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r Ganolfan
Alwadau:
E-bost: call.centre@cskills.org
Post: Canolfan Alwadau, CITB-SgiliauAdeiladu, Bircham Newton,
King's Lynn, Norfolk PE31 6RH
I ddad-danysgrifio i'r e-bost, cysylltwch â 0344 994 4333 neu unsubscribe@cskills.org.