Bywyd fel Prentis

Zoom in

Gweithio, ennill a dysgu

Fel prentis, byddwch yn cael eich cyflogi ac yn ennill cyflog wythnosol wrth ymarfer y sgiliau a ddysgoch yn y coleg. Unwaith y mae'r rhaglen yn dod i ben byddwch yn derbyn cymhwyster cenedlaethol cydnabyddedig.

Beth fyddaf yn gwneud fel prentis?

Byddwch yn gweithio i gwmni sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu. Mae'r dyddiau fel arfer yn hir a gall fod yn waith caled, ond mae'r gwobrau yn ardderchog os yr ydych yn dyfalbarhau.

Mae cyflogwyr yn amrywio mewn maint, o fusnesau bach i rai mawr, cenedlaethol a hyd yn oed rhyngwladol. Felly gallai fod digon o gyfleoedd i chi deithio, hyd yn oed i wledydd tramor. Efallai y bydd angen i chi fyw i ffwrdd o'ch cartref o dro i dro yn ystod eich prentisiaeth, felly mae'r gallu i fod yn annibynnol ac yn hyblyg yn gymorth mawr i chi addasu i'ch bywyd newydd.

Beth bynnag yw maint y cwmni, bydd angen i chi fod yn ddibynadwy ac yn barod i weithio'n galed - bydd aelodau eich tîm yn dibynnu arnoch, yn enwedig pan ddaw at weithio'n ddiogel. 

Mae rhai swyddi yn golygu bydd yn rhaid i chi fod y tu allan drwy'r flwyddyn gron felly bydd angen i chi fod yn hapus i weithio ym mhob tywydd. Gall fod yn anodd yn y gaeaf ond yn ardderchog yn yr haf.

Byddwch yn cychwyn ar waelod y gris gan fod angen i chi ddysgu sut i wneud y swydd yn gywir, ond wrth i'ch sgiliau a'ch gwybodaeth gynyddu bydd eich tasgau yn mynd yn anoddach, yn fwy heriol ac yn foddhaus. Dechreuodd nifer o gyflogwyr fel prentisiaid ac y maent erbyn hyn yn rhedeg eu busnesau llwyddiannus eu hunain.

Bydd eich diwrnod yn cychwyn fel arfer am 8 o'r gloch y bore, felly mae angen i chi godi yn gynnar i deithio i'r gweithle gan ganfod eich ffordd eich hun yno. Os ydych yn ffodus efallai y cewch rannu taith, ond bydd canfod eich cludiant eich hun yn gwneud gwaith yn haws a bydd ennill cyflog yn eich cynorthwyo gyda hyn. Peidiwch ag anghofio y byddwch yn cael eich talu am fynd i'r coleg ac am weithio.

Mae yna isafswm cyflog o £95 yr wythnos i gychwyn ond wrth i'ch sgiliau a'ch profiad gynyddu, bydd eich cyflog yn cynyddu yn yr un modd. Mae nifer o brentisiaid  trydedd flwyddyn yn ennill mwy na £200 yr wythnos.

Nid yw prentisiaid yn cynilo eu harian i gyd, gan y bydd angen peth ar gyfer eich bywyd cymdeithasol newydd gyda'ch ffrindiau newydd o'r coleg a'r gwaith. Bydd angen i chi wario peth arian ar gyfarpar safonol yn ogystal. Dyma gychwyn eich bywyd fel crefftwr ac mae meddu ar y cyfarpar cywir yn hanfodol os ydych am wneud cynnydd.

Byddwch yn dysgu sgiliau newydd drwy'r amser yn y coleg ac yn eu hymarfer mewn awyrgylch waith go iawn. Mae'r sgiliau hyn yn hanfodol ar gyfer eich prentisiaeth a bydd angen i chi wneud cofnod o'ch profiadau yn eich portffolio cymwysterau er mwyn profi eich bod yn gymwys yn eich crefft ddewisol.

Mae angen i chi wneud hyn adref felly bydd gofyn eich bod yn sicrhau cydbwysedd yn eich ymrwymiadau ac weithiau'n rhoi'r flaenoriaeth i'ch prentisiaeth yn hytrach na mynd allan a mwynhau eich hunan. Bydd unrhyw aberth werth bob eiliad yn y diwedd, unwaith y bydd gennych gymhwyster sydd yn sail gadarn ar gyfer y dyfodol yn y diwydiant adeiladu.