Ai gyrfa ym maes adeiladu yw'r yrfa orau i berson ifanc yn eich gofal?

Gydag amrywiaeth eang o alwedigaethau i weddu i bob cefndir, a'r cyfle i ddatblygu gyrfa, mae'r sector adeiladu yn chwilio am bobl ymroddedig i ymuno â diwydiant sy'n datblygu ac yn creu byd y dyfodol.

Os oes plentyn yn eich gofal yn dangos diddordeb mewn gyrfa gydag unrhyw un o'r canlynol yna dylent ystyried Prentisiaeth Adeiladu:

  • Gwaith Tîm
  • Datrys Problemau
  • Sgiliau Trefnu

Yn CITB-SgiliauAdeiladu, rydym yn helpu mwy o brentisiaid i adeiladu gyrfaoedd pleserus yn y maes adeiladu. Rydym yn cynnig cymorth heb ei ail a hyfforddiant trwy gydol eu prentisiaeth a thu hwnt.

Gallwn helpu, beth bynnag fo uchelgais y person ifanc:

  • i fod yn grefftwr o'r radd flaenaf
  • i ddysgu ystod eang o fedrau gwerthfawr
  • i fynd i mewn i fyd rheolaeth
  • i sefydlu eu busnes eu hunain un diwrnod

CITB-SgiliauAdeiladu yw'r dewis gorau os yw rhywun yn awyddus i gychwyn gyrfa mewn adeiladu:

  • Mae ein swyddogion cefnogi prentisiaeth yn cefnogi prentisiaid bob cam o'r ffordd
  • Mae prentisiaid yn fwy tebygol o gwblhau eu prentisiaeth gyda ni
  • Dysgwch yn ein Coleg Adeiladu Cenedlaethol neu yn un o 160 o golegau ledled y wlad
  • Gweithio gyda ni yw'r ffordd orau i'r cyflogwr gael yr holl gyllid sydd angen i gefnogi prentisiaid drwy gydol eu prentisiaeth.

Canfyddwch beth yn union yw adeiladu.