Mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB), a elwir fel
arall CITB-SgiliauAdeiladu, yn elusen gofrestredig (Rhif Elusen
264289) gyda'r prif leoliad busnes yn Bircham Newton, King's Lynn,
Norfolk, PE31 6RH.
Defnyddio'r wefan hon
Pan gyfeirir at 'chi' ac 'eich' maent yn gyfeiriadau at y
personau sy'n cael mynediad i'r wefan.
Pan gyfeirir at 'ni' ac 'ein' maent yn gyfeiriadau at Fwrdd
Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu.
Mae www.bconstructive.co.uk ac unrhyw
wefannau arall gan CITB-SgiliauAdeiladu (y cyfeirir ati wedi hyn
fel 'y wefan') yma er mwyn i chi eu defnyddio ac i'w chwilota. Wrth
gael mynediad a gwneud defnydd o'r wefan hon rydych yn derbyn y
Telerau ac Amodau sy'n dod i rym o'r dyddiad y byddwch yn
defnyddio'r wefan hon.
Gallwn, ar unrhyw adeg newid y Telerau ac Amodau heb rybudd.
Dylech wirio'r rhain bob tro y byddwch yn defnyddio'r wefan. Rydych
yn cytuno i adolygu'r Telerau ac Amodau yn rheolaidd a thra y
byddwch yn parhau i ddefnyddio'r wefan hon golyga eich bod yn
cytuno i unrhyw newidiadau.
Mae'r telerau ac amodau i'w darllen gennych chi ynghyd ag unrhyw
delerau, amodau ac ymwadiadau a ddarperir yn y tudalennau ar y
wefan. Mewn achos o unrhyw wrthdaro, bydd y telerau a'r amodau a'r
ymwadiadau a ddarperir yn y tudalennau ar y safle yn gorchfygu'r
telerau a'r amodau hyn.
Nid oes gennych hawl (ac ni fyddwch yn cynorthwyo eraill) i
sefydlu dolenni o'ch gwefannau eich hunain i'r wefan (p'un ai drwy
ddolen hyperdestun, dolen ddofn, fframio, tagio neu fel arall) heb
ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan CITB-SgiliauAdeiladu a gallwn
yn ôl ein disgresiwn llwyr, a heb roi rheswm, gytuno neu wrthod
rhoi'r caniatâd hwn.
Eiddo deallusol
Mae cynnwys y wefan yn cael ei warchod gan hawlfraint, hawliau
nod masnach, hawliau cronfa ddata, hawliau patent, hawliau dylunio
ac unrhyw destun arall, graffeg, sain, fideo neu ddelweddau,
cynnwys, meddalwedd, data a gwybodaeth. Gallwch argraff nodi,
copïo, llwytho i lawr neu gadw dros dro ddyfyniadau o'r wefan ar
gyfer eich gwybodaeth bersonol yn unig.
Rydym yn caniatáu i chi gyrchu'r wefan hon yn gyfnewid am eich
cytundeb i beidio ag addasu, newid neu greu unrhyw waith sy'n
deillio o unrhyw ran o'r deunydd a gynhwysir yn y wefan hon.
Mae enwau, delweddau a logos CITB-SgiliauAdeiladu yn nodau
masnach cofrestredig. Ni chaniateir copïo na defnyddio enw, logo na
delweddau CITB-SgiliauAdeiladu, mewn unrhyw fodd, heb ganiatâd
ysgrifenedig ymlaen llaw gan CITB-SgiliauAdeiladu. Gallwch ofyn am
ganiatâd i ddefnyddio logo CITB-SgiliauAdeiladu drwy anfon e-bost
at louise.hutchings@cskills.org
neu gallwch gyfeirio ymholiadau at: Cyfathrebu a Marchnata,
CITB-SgiliauAdeiladu, Bircham Newton, King's Lynn, Norfolk, PE31
6RH.
Mae pob nod masnach arall, enwau brand, enwau cynnyrch, teitlau
a hawlfraint a ddefnyddir ar y wefan hon yn cael eu defnyddio o dan
drwydded a roddwyd gan eu deiliaid perthnasol. Ni chaiff unrhyw
ganiatâd ei roi gan CITB-SgiliauAdeiladu mewn perthynas â'r defnydd
o unrhyw un ohonynt a bydd defnydd o'r fath yn gyfystyr â thorri
hawliau'r deiliad.
Nid oes gennych hawl (ac ni fyddwch yn cynorthwyo eraill) i
sefydlu dolenni o'ch gwefannau eich hunain i'r wefan (p'un ai drwy
ddolen hyperdestun, dolen ddofn, fframio, tagio neu fel arall) heb
ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan CITB-SgiliauAdeiladu a gallwn
yn ôl ein disgresiwn llwyr, a heb roi rheswm, gytuno neu wrthod
rhoi'r caniatâd hwn.
Rydym yn pryderu am ddiogelwch a phreifatrwydd ein defnyddwyr,
yn enwedig plant. Dylai rhieni / gwarcheidwaid sy'n dymuno caniatáu
i'w plant gael mynediad at a defnyddio'r wefan, oruchwylio hyn yn
ofalus. Drwy ganiatáu i'ch plentyn gael mynediad i'r wefan rydych
chi'n caniatáu i'ch plentyn gael mynediad at yr holl wasanaethau
gan gynnwys e-bost, fforymau a / neu neges arall cyfathrebu neu
gyfleusterau. Eich cyfrifoldeb chi, felly, yw penderfynu pa
wasanaethau sy'n briodol ar gyfer eich plentyn.
Eich defnydd chi o'r wefan
Ar eich menter chi yn unig y mae'r defnydd o'r wefan. Ni fydd
CITB-SgiliauAdeiladu yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod o gwbl,
pa bynnag ffordd y digwydd hyn, sy'n deillio o ganlyniad i'ch
defnydd o neu ddibyniaeth ar yr wybodaeth a gynhwysir ar y wefan
i'r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith.
At hynny, ni fydd CITB-SgiliauAdeiladu yn gyfrifol:
• Am gywirdeb neu ddibynadwyedd yr wybodaeth neu gynnwys y
wefan;
• Am broblemau gan gynnwys cydweddoldeb a difrod neu lygredd
o'ch Caledwedd, meddalwedd neu osodiad;
• Am ddiogelwch y wefan;
• Am doriad mewn argaeledd neu wallau ar y wefan;
• Am fethiant cynnwys y wefan i fodloni eich gofynion;
neu,
• Cywirdeb, ymarferoldeb neu berfformiad unrhyw feddalwedd
trydydd parti a ellid ei defnyddio mewn cysylltiad â'r wefan.
Mae'r wefan wedi'i bwriadu ar gyfer y rheiny sy'n cael mynediad
iddo o fewn y Deyrnas Unedig felly, ni allwn warantu bod y wefan
a'i chynnwys yn cydymffurfio â neu yn addas i'w defnyddio mewn
mannau eraill.
Ni ellir gwarantu bod negeseuon a anfonir dros y we yn gwbl
ddiogel gan eu bod yn agored i'r posibilrwydd o ryng-gipio, i'w
colli neu newid. Nid ydym yn gyfrifol amdanynt, ac ni fyddwn yn
atebol i chi neu unrhyw un arall am unrhyw ddifrod neu fel arall
mewn cysylltiad ag unrhyw neges a anfonwyd gennych chi i ni neu
unrhyw neges a anfonwyd gennym i chi dros y rhyngrwyd.
Cystadlaethau a rafflau
O bryd i'w gilydd gall CITB-SgiliauAdeiladu gynnal
cystadlaethau, rafflau am ddim a hyrwyddiadau ar y wefan hon. Bydd
y rhain yn amodol ar delerau ac amodau ar wahân a fydd ar gael adeg
y cystadlaethau hyn.
Siop CITB-SgiliauAdeiladu
Mae hyn yn amodol ar delerau ac amodau ychwanegol sydd ar gael
gan Gyhoeddiadau CITB-SgiliauAdeiladu.
Firysau
Er bod CITB-SgiliauAdeiladu yn gwneud pob ymdrech resymol i
eithrio firysau o'r wefan, ni ellir sicrhau gwaharddiad o'r fath ac
ni dderbynnir unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled, amhariad neu
ddifrod i'n data na'ch system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth
ddefnyddio deunydd oddi ar y wefan.
Chi yn unig sy'n gyfrifol am amddiffyn digonol a chreu ffeiliau
wrth gefn o ddata a / neu offer ac am gymryd camau rhesymol a
phriodol i sganio am firysau cyfrifiadurol neu eiddo dinistriol.
Felly, argymhellir eich bod yn cymryd yr holl fesurau diogelu
priodol cyn lawr lwytho gwybodaeth o'r wefan.
Dolenni i wefannau trydydd parti
Nid yw CITB-SgiliauAdeiladu yn gyfrifol am gynnwys na
dibynadwyedd unrhyw wefannau eraill y darparwn ddolen iddynt ac nid
yw o reidrwydd yn cefnogi'r farn a fynegir ynddynt. Ni ddylid
derbyn bod rhestriad yn gyfystyr â chymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni
allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob amser ac nid oes
gennym reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiedig. Nid yw
CITB-SgiliauAdeiladu yn benodol gyfrifol am unrhyw bolisïau
preifatrwydd ar wefannau allanol ac rydym yn argymell eich bod yn
darllen y datganiadau perthnasol ar unrhyw wefannau eraill y
byddwch yn ymweld â nhw. Nid yw CITB-SgiliauAdeiladu yn gyfrifol am
ganlyniadau uniongyrchol neu anuniongyrchol eich cysylltiad ag
unrhyw wefan arall o'r wefan hon.
Os ydych yn cyrchu at y gwefannau hyn trwy'r dolenni rydych yn
gadael y wefan ac ni fydd CITB-SgiliauAdeiladu yn gyfrifol nac yn
atebol am gynnwys neu drafodion sydd gennych gyda'r trydydd parti
hyn.
Nid oes ardystio na chymeradwyaeth gan unrhyw drydydd parti na
chyngor, barn, gwybodaeth, cynhyrchion na gwasanaethau, yn cael ei
fynegi neu ei awgrymu gan unrhyw wybodaeth ar ein gwefan.
Diogelu Data
Gweler ein hysbysiad
preifatrwydd.
Cyfraith lywodraethol ac awdurdodaeth
Mae'r telerau a'r amodau hyn yn cael eu llywodraethu a'u
dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr a gyda llysoedd
Lloegr fydd yr awdurdodaeth lwyr mewn perthynas ag unrhyw anghydfod
a allai godi.
Cwestiynau a chwynion
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon uchel, hygyrch
ac ymatebol i bob defnyddiwr. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu
gwynion sy'n ymwneud â'r wefan, cysylltwch â ni yn ysgrifenedig
at:
Y Ganolfan Alwadau,
CITB-SgiliauAdeiladu,
Bircham Newton,
King's Lynn,
Norfolk PE31 6RH
E-bost: call.centre@cskills.org
© 2011 CITB-SgiliauAdeiladu