Cynghori ar yrfaoedd adeiladu
Ydych chi'n cael eich holi am brentisiaethau neu yrfaoedd yn y
maes adeiladu? Wel rydych chi wedi dod i'r lle iawn.
Beth i'w ddweud pan ofynnir i chi am adeiladu
Yn y tudalennau hyn, gallwch gael gwybod am y gwahanol
alwedigaethau yn y maes adeiladu a'r math o bobl sy'n gweithio
ynddynt. Gallwch ddefnyddio ein teclyn Ymgynghorydd Gyrfaoedd i
helpu'ch disgyblion i weld pa fath o swyddi sydd o ddiddordeb
iddynt, a gallwch edrych ar ddigwyddiadau lleol a chysylltiadau os
bydd angen i chi gael gwybod mwy.
Pwy yw CITB-SgiliauAdeiladu?
CITB-SgiliauAdeiladu yw darparwr hyfforddiant mwyaf blaenllaw'r
Deyrnas Unedig ar gyfer prentisiaethau adeiladu. Rydym yn gweithio
mewn partneriaeth â cholegau ledled y Deyrnas Unedig, yn rheoli
llwyddiannau a chefnogi ein dysgwyr ifanc a'u cyflogwyr.
Gyda phrofiad o dros 45 mlynedd yn y diwydiant adeiladu, mae
CITB-SgiliauAdeiladu yn falch i fod yn rhan o hyfforddi cenhedlaeth
newydd o weithwyr medrus y diwydiant adeiladu.
Mae gan ein staff i gyd brofiad o weithio gyda phobl ifanc ac yn
gymwys ym mhob agwedd ar ddiogelu plant ac oedolion sy'n agored i
niwed. Mae'r holl staff sy'n gweithio gyda phobl ifanc wedi cael y
gwiriad Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB).
Cwestiynau Cyffredin
Mae llawer o resymau pam y dylai pobl ifanc wneud cais am
Brentisiaeth CITB-SgiliauAdeiladu. Isod ceir rhai atebion i rai
cwestiynau cyffredin y gallech dderbyn.
Sut fyddwch chi'n sicrhau bod prentisiaid yn gweithio i gwmni
teilwng?
Mae'r holl brentisiaid yn cael eu cyflogi yn llawn drwy gydol eu
hyfforddiant prentisiaeth. Mae pob cwmni sy'n cynnig prentisiaethau
yn cofrestru'n wirfoddol gyda CITB-SgiliauAdeiladu ac yn cael eu
gwirio gan staff cymwys.
Sut ydych chi'n sicrhau y bydd y prentisiaid ifanc yn
ddiogel?
Mae'n ofynnol i gwmnïau cofrestredig sicrhau bod gan eu staff i
gyd yswiriant llawn yn y gwaith ac mae prentisiaid yn cael eu
goruchwylio gan weithwyr profiadol, llawer ohonynt yn gyn
brentisiaid CITB-SgiliauAdeiladu eu hunain.
Mae pob cwmni yn derbyn archwiliad iechyd a diogelwch llawn cyn
i'r prentis gychwyn a cyflawnir archwiliadau rheolaidd o ddiogelwch
y prentis yn ystod adolygiadau safle.
Ni fydd CITB-SgiliauAdeiladu yn gweithio gydag unrhyw gwmni sydd
ddim yn barod i gydymffurfio â rheoliadau diogelwch.
Sut fyddwch chi'n gwneud yn siŵr bod y person ifanc yn
mynychu'r cwrs cywir yn y coleg cywir?
Mae CITB-SgiliauAdeiladu yn gweithio gyda nifer fawr o golegau
addysg bellach drwy Loegr ac mae dewis helaethach o brentisiaethau
ar gael yn y nifer o Golegau Adeiladu Cenedlaethol.
Cyn cael eu derbyn, mae pob prentis yn cael prawf mynediad er
mwyn sicrhau eu haddasrwydd a'u gallu i gwblhau'r cwrs.
Sut y gallwch sicrhau bod person ifanc yn cwblhau prentisiaeth
gydnabyddedig?
Mae'r holl gymwysterau adeiladu yn seiliedig ar gymwysterau SVQ
/ NVQ a Diploma ac yn cael eu cydnabod yn genedlaethol. Mae staff
penodol i ddarparu cefnogaeth a chyngor parhaus ar gyflawniad yr
SVQ / NVQ a datblygiad gyrfaoedd.
Llofnodir cytundeb Cynllun Prentis Adeiladu (CAS) gan bob parti
a'i rhoi ar waith fel gweithred prentisiaeth ffurfiol. Mae
CITB-SgiliauAdeiladu yn cyflawni adolygiadau cynnydd ffurfiol
rheolaidd a phawb yn cael gwybodaeth am y canlyniadau.
Dyfarnwyd Gradd 2 i CITB-SgiliauAdeiladu gan OFSTED yn Lloegr ac
fe'i hystyrir i fod yn ddarparwr hyfforddiant 'da neu well'.
Beth sy'n digwydd wedi prentisiaeth?
Darperir cyngor parhaus ar lwybrau dilyniant yn seiliedig ar
allu'r unigolyn a'i uchelgais.
Beth yw budd prentisiaeth?
Mae prentisiaeth yn swydd gyda chymwysterau; mae hyn yn rhoi'r
gallu i 'ennill wrth iddynt ddysgu' i'r prentisiaid. Gan gyfuno
dysgu yn y coleg a phrofiad yn y gweithle, sicrheir bod y
prentisiaid yn cael y cydbwysedd cywir o sgiliau technegol a
phrofiad ymarferol.
Mae CITB-SgiliauAdeiladu yn talu'r holl gostau sy'n gysylltiedig
â chymwysterau ei brentisiaid ei hun hefyd.